Dosbarth Ffederal Canol

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Canol Rwsia)
Neidio i: llywio, chwilio
Dosbarth Ffederal Canol
Map of Russia - Central Federal District.svg
Arwynebedd: 652,800 km²
Trigolion: 37,545,831 (amcangyfrif 1 Ionawr 2005)
Dwysedd poblogaeth: 58 trigolion/km²
Canolfan llywodraeth: Moscfa

Un o saith talaith ffederal Rwsia yw'r Dosbarth Ffederal Canol (Rwseg: Центра́льный федера́льный о́круг, Tsentral'nyj federaln'nyy okrug). Defnyddir y gair 'Canol' mewn ystyr hanesyddol: roedd yr ardal yng nghanol Rwsia yn ystod yr Oesoedd Canol. Heddiw fe'i lleolir ar ochr orllewinol Ffederaliaeth Rwsia.

Cennad Arlywyddol y dalaith yw Georgiy Poltavchenko. Mae'r dalaith yn cynnwys deunaw oblast ac un ddinas ffederal, fel a ganlyn:

  1. Oblast Belgorod
  2. Oblast Bryansk
  3. Oblast Ivanovo
  4. Oblast Kaluga
  5. Oblast Kostroma
  6. Oblast Kursk
  7. Oblast Lipetsk
  8. Dinas Ffederal Moscfa
  9. Oblast Moscfa
  10. Oblast Oryol
  11. Oblast Ryazan
  12. Oblast Smolensk
  13. Oblast Tambov
  14. Oblast Tver
  15. Oblast Tula
  16. Oblast Vladimir
  17. Oblast Voronezh
  18. Oblast Yaroslavl

RussiaCentralNumbered.png


 
Dosbarthau ffederal Rwsia
Flag of Russia.svg
Map of Russian districts, 2010-01-19.svg
Canol | Deheuol | Gogledd-orllewinol | Gogledd y Cawcasws | Dwyrain Pell | Siberia | Ural | Volga