Canclwm Japan
Oddi ar Wicipedia
| Canclwm Japan neu Llysiau'r Dail | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosperms |
| Ddim wedi'i restru: | Eudicots |
| Ddim wedi'i restru: | Core eudicots |
| Urdd: | Caryophyllales |
| Teulu: | Polygonaceae |
| Genws: | Fallopia |
| Rhywogaeth: | F. japonica |
| Enw deuenwol | |
| Fallopia japonica Houtt. (Ronse Decr.) |
|
Planhigyn o Japan ydy Canclwm Japan neu Llysiau'r Dail (Lladin: Fallopia japonica; Saesneg: Japanese Knotweed).
Cyflwynwyd llysiau'r dial i wledydd Prydain yn y 19eg ganrif fel planhigyn addurnol. Dros amser, mae wedi ymledu’n eang mewn ystod o gynefinoedd, gan gynnwys ymylon ffyrdd, glannau afonydd ac adfeilion.
Mae’n drech na phlanhigion ac anifeiliaid brodorol ar adegau. Dyma rai o'i nodweddion:
- lliw gwyrdd toreithiog
- dail ar ffurf rhaw
- mae’r coesyn yn edrych fel bambŵ
- mae’n cynhyrchu blodau gwynion yn ystod Medi neu Hydref
- gall dyfu cymaint â 10cm y diwrnod
Cyfeiriadau [golygu]
- Asiantaeth yr Amgylchedd - gwefan bywyd gwyllt: Llysiau'r dail