Camri

Oddi ar Wicipedia
Camri
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Asterales
Teulu: Asteraceae
Genws: Chamaemelum
Rhywogaeth: C. nobile
Enw deuenwol
Chamaemelum nobile
L.
Cyfystyron

Anthemis nobilis

Planhigyn bychan a dyf yn y cloddiau ydy camri, neu camil (Lladin: Chamaemelum nobile, cyfystyr: Anthemis nobilis; Saesneg: camomile neu chamomile). Arferid defnyddio'r blodau bach melyn fel siampŵ i felynu gwallt merch.

Ceir sawl math arall o gamri, gan gynnwys:

Rhinweddau meddygol[golygu | golygu cod]

  • Plannu Camri yn Aberdaron:
10 Mawrth 1887 Aredig at datws yn Caetanlon. Planais camomile [camri neu chamomile] yn yr ardd[2]
Meddai Bethan Wyn Jones: "Un rheswm dros dyfu camri yn yr ardd, oedd er mwyn gwneud te emetig hefo fo – hynny ydi, rhywbeth i achosi i rywun gyfogi, ond nid dyna oedd yr unig reswm dros ei ddefnyddio, ac mae’r mwyafrif o gofnodion o’r defnydd sydd wedi’i wneud o hwn yn dangos ei fod wedi’i ddefnyddio i ymlacio. Mae o hefyd wedi’i ddefnyddio ar gyfer cnofeydd yn y stumog, ac er mwyn llacio poenau yn y pen, y dannedd a’r clustiau oedd yn codi o achos tensiwn neu nerfusrwydd. Mae’r camri hefyd wedi’i ddefnyddio er mwyn llacio poenau merched yn ystod y mislif, ac er mwyn cysgu’n esmwythach - go brin y basa fo wedi'i blannu ar gyfer hyn!! [Hen lanc oedd William Jones!] Defnydd arall sydd wedi’i wneud ohono fo ydi ar gyfer anwyd, peswch a dolur gwddw. Fel arfer defnyddio’r blodau i wneud te a’i yfed yn boeth wneid i wella anwyd ag ati, ond roedd rhai hefyd yn anadlu’r stêm oedd yn codi wrth roi dŵr berwedig ar y blodau. Roedd hyn yn digwydd ym Morgannwg ac yn Sir Drefaldwyn. Roedd ‘na gred yn Ne Cymru fod cymryd y gwlith oedd wedi’i ysgwyd oddi ar y blodau yn ddigon i wella’r diciâu. Defnyddiwyd y blodau i wneud trwyth i roi ar chwydd neu os ydi’r croen yn llidus. Mae modd gwneud eli hefyd hefo’r blodau er mwyn ei roi ar betha fel pen ddyn er mwyn tynnu’r drwg allan ohono, ac mi fedrwch chi ddefnyddio dwr oddi ar y blodau er mwyn golchi llygaid dolurus. Mae ‘na rai yn credu y medrwch chi ddefnyddio’r olew o’r blodau i drin y cengroen neu sorïasis. Yn ôl pob sôn, mi fedrwch ddefnyddio gwraidd y planhigyn ar gyfer y ddannodd. Yn sicr mae’r blodau wedi’u defnyddio er mwyn golchi’r gwallt os oes gennych chi wallt golau, er mwyn cadw’r lliw golau. Mae’r camri hefyd wedi’i ddefnyddio i gynhyrchu lliwur – un gwyrdd. Mae ‘na ddefnydd arall i’r camri hefyd – sef defnydd hud. Mae’r blodyn wedi’i ddefnyddio er mwyn denu arian ac mae’r rhai sy’n gamblo yn credu ei fod yn beth lwcus i olchi eich dwylo mewn trwyth o’r planhigyn er mwyn sicrhau eich bod chi’n ennill.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.
  2. Tywyddiadur Llên Natur[http//:llennatur.cymru]; Dyddiadur William Jones, Aberdaron
  3. Bwletin Llên Natur rhifyn 25[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato