Camptonville

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Tref fechan 2,825 troedfedd i fyny yng ngogledd-ddwyrain Swydd Yuba, Califfornia, yw Camptonville. Gorwedda ger Highway 49 rhwng Downieville a Nevada City, ar lan Afon Yuba.

Daeth yn un o ganolfannau "Gold Rush" Califfornia lle arhosai teithwyr yn disgyn o Fwlch Donner. Tyfodd i fod yn dref fywiog gyda hanner cant o dafarnau (saloons) a nifer o buteindai. Ond ar ôl y Gold Rush dirywiodd yn gyflym. Erbyn heddiw dim ond cymuned fechan sy'n byw yno ac mae adfeilion yr hen adeiladau yn gorwedd yng nghanol pinwydd ponderosa.

Mae gan Camptonville le pwysig yn hanes Y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Yn 1856, ffurfiwyd cymdeithas yn Camptonville i geisio sefydlu gwladfa Gymreig. Yma, i bob golwg, y soniwyd gyntaf am Patagonia fel lleoliad posibl i'r Wladfa honno. Gyrrwyd llythyrau i bapurau Cymraeg i ofyn am gefnogaeth, a threfnodd Michael D. Jones trwy drefnu cyfarfod cyhoeddus yn Y Bala, lle ffurfiwyd cymdeithas arall.

Dolenni allanol[golygu]