Camp (arddull)
Defnyddir y term Camp pan yn cyfeirio at rywbeth sy'n apelio yn sgîl ei ddiffyg chwaeth a'i werth eironig. Pan ddefnyddiwyd y term am y tron cyntaf ym 1909, cyfeiriai at ymddygiad dros ben llestri, theatrig, merchetaidd ac ymddygiad hoyw ond erbyn y 1970au, roedd ei ystyr wedi newid a gallai olygu rhywbeth a oedd mor erchyll a di-chwaeth fel ei fod yn apelio ar lefel rhyfedd o soffistigedig. Pwysleisia traethawd yr ysgrifennydd Americanaidd Susan Sontag “Notes on ‘Camp’ ” (1964) ei brif brif elfennau fel: clyfrwch, gwamalrwydd, ymhongarwch naïf dosbarth-canol a gormodedd o 'sioc'.
Gwnaed ffilmiau camp yn boblogaidd gan y gwneuthurwr ffilmiau John Walters mewn ffilmiau megis Hairspray a Polyester. Mae enwogion a gysylltir â phersonoliaethau camp yn cynnwys perfformwyr drag a pherfformwyr fel Dame Edna, Divine (Glen Milstead), RuPaul, Boy George, a Liberace. Fel rhan o'r ymgyrch gwrth-academaidd i amddiffyn diwylliant cyfoes a ddechreuodd yn ystod y 1960au, daeth camp yn boblogaidd yn ystod y 1980au.