Camlesi Cymru

Oddi ar Wicipedia
Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog yn Aberhonddu.

Ceir nifer o gamlesi yng Nghymru. Dechreuwyd adeiladu camlesi ar raddfa sylweddol ym mlynyddoedd olaf y 18g, ac am gyfnod yn rhan gyntaf y 19g roeddynt o bwysigrwydd economaidd mawr.[angen ffynhonnell]

Y gamlas gyntaf i'w hadeiladu yng Nghymru oedd Camlas Morgannwg. Dechreuwyd ei hadeiladu yn 1790 ac fe'i hagorwyd yn 1794. Roedd hon, fel nifer o'r camlesi, yn allweddol i gludo haearn a glo i borthladdoedd Casnewydd, Caerdydd ac Abertawe. Cyn hyn yr unig ffordd i'w cludo oedd gyda merlod a cheffylau. Roedd y cymoedd serth yn ei gwneud yn anodd i gloddio'r camlesi yng Nghymru.