Cameron Diaz

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cameron Diaz

Actores a chyn-fodel ffasiwn yw Cameron Michelle Diaz (ganed 30 Awst, 1972). Daeth i amlygrwydd yn sgîl ei rôlau yn y ffilmiau The Mask a There's Something About Mary, ac ers hynny ymddangosodd mewn nifer o ffilmiau eraill gan gynnwys Shrek, Vanilla Sky, Gangs of New York a What Happens in Vegas.

Ei bywyd cynnar[golygu]

Ganwyd Diaz yn San Diego, Califfornia yn ferch i Billie (née Early) asiant mewnforio-allforio, ac Emilio Diaz (1949-2008), a weithiau i'r cwmni olew Califfornia UNOCAL am dros ugain mlynedd tan iddo ymddeol ym 1998. Roedd ei thad yn Americanwr Ciwbaidd o'r ail genhedlaeth a daeth ei deulu o Sbaen trwy Ciwba. Ymsefydlodd ei mamgu a'i thadcu yn Ninas Ybor, Tampa. Mae ei mam o gefndir Seisnig, Almaenig a Cherokee. Mae ganddi un chwaer hŷn, Chimene Diaz (ganed 5 Mehefin, 1970, San Diego). Mynychodd Ysgol Uwchradd Polytecnig Long Beach ar yr un cyfnod a'r rapiwr Snoop Dogg.

Ffilmiau[golygu]

Blwyddyn Teitl Rôl
1994 The Mask Tina Carlyle
1995 The Last Supper Jude
1996 She's the One Heather
Feeling Minnesota Freddie Clayton
Head Above Water Nathalie
1997 Keys to Tulsa Trudy
My Best Friend's Wedding Kimberly Wallace
A Life Less Ordinary Celine Naville
1998 Fear and Loathing in Las Vegas Blonde TV Reporter
There's Something About Mary Mary Jensen
Very Bad Things Laura Garrety
1999 Being John Malkovich Lotte Schwartz
Any Given Sunday Christina Pagniacci
2000 Things You Can Tell Just by Looking at Her Carol Faber
Charlie's Angels Natalie Cook
2001 The Invisible Circus Faith
Shrek Princess Fiona (llais)
Vanilla Sky Julianna 'Julie' Gianni
2002 The Sweetest Thing Christina Walters
My Father's House The Girl
Minority Report Woman on Metro
Gangs of New York Jenny Everdeane
2003 Shrek 4-D Princess Fiona (llais)
Charlie's Angels: Full Throttle Natalie Cook
2004 Shrek 2 Princess Fiona (llais)
2005 In Her Shoes Maggie Feller
2006 The Holiday Amanda Woods
2007 Shrek the Third Princess Fiona (llais)
Shrek the Halls (TV) Princess Fiona (llais)
2008 What Happens in Vegas... Joy McNally-Fuller
The Box Norma Lewis
2009 My Sister's Keeper Sara Fitzgerald
2010 Shrek Goes Fourth Princess Fiona (llais)

References[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Baner United StatesEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.