Cambrian Airways
Oddi ar Wicipedia
![]() |
||||
|
||||
| Enw'r cwmni | Cambrian Airways | |||
|---|---|---|---|---|
| Sefydlwyd | 1935 | |||
| Bothau |
|
|||
| Cyrchfannau | 20 | |||
| Pencadlys | Caerdydd, Cymru | |||
| Pobl allweddol | S. Kenneth Davies (Cadeirydd a Chyfarwyddwr Rheoli) | |||
Cwmni hedfan cenedlaethol cyntaf Cymru oedd Cambrian Airways.
Ffurfiwyd y cwmni yng Nghaerdydd yn 1935 o dan yr enw Cambrian Air Services, gan y masnachwr S. Kenneth Davies, Cadeirydd a Chyfarwyddwr Rheoli cyntaf y cwmni. Dechreuodd fel cwmni awyr siarter, yn hedfan o faes awyr gwreiddiol Caerdydd yn Rhos Pengam ger Y Sblot, tua dwy filltir o ganol y ddinas.
Yn 1951 gadawodd Kenneth Davies y cwmni i fod yn Gyfarwyddwr BEA (British European Airways).
Symudodd y cwmni eu gwasanaethau i faes awyr Caerdydd (Rhws) yn 1954. Yn 1976, ar ôl bron i 40 mlynedd, diflannodd yr enw pan brynwyd Cambrian Airways gan BEA.[1]
Cynnwys |
Teithiau [golygu]
- Cymru: Caerdydd-Abertawe • Caerdydd-Hwlffordd • Caerdydd-Penarlâg
- Lloegr: Caerdydd-Bournemouth • Caerdydd-Bryste • Caerdydd-Lerpwl (Speke) • Caerdydd-Llundain (Heathrow) • Caerdydd-Manceinion • Caerdydd-Southampton
- Yr Alban: Caerdydd-Caeredin • Caerdydd-Glaschu
- Iwerddon: Caerdydd-Belffast • Caerdydd-Corc • Caerdydd-Dulyn
- Guernsey: Caerdydd-Guernsey
- Jersey: Caerdydd-Jersey • Abertawe-Jersey
- Ynys Manaw: Caredydd-Ynys Manaw (Ronaldsway)
- Llydaw: Caerdydd-Dinard
- Ffrainc: Caerdydd-Paris
Oriel [golygu]
Ffynhonnell [golygu]
- ↑ History of Cambrian Airways, the Welsh airline from 1935–1976, STADDON, T.G. 1979
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) Gwefan answyddogol yn coffáu'r cwmni
