Cambria triumphans

Oddi ar Wicipedia
Cambria triumphans


Llyfr ar hanes Cymru gan Percy Enderbie (1601-1670) yw Cambria triumphans (Lladin am "Gymru Fuddugoliaethus"). Mae'r llyfr yn olrhain hanes Cymru ac yn ceisio dangos bod llinach y Stuartiaid yn perthyn o ran gwaed i linach brenhinoedd y Cymry. Fe'i gyhoeddwyd yn Llundain yn 1661 gan Andrew Crooke.[1]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Teitl llawn y gyfrol yw: "Cambria triumphans, or, Brittain in its perfect lustre shevving the origen and antiquity of that illustrious nation, the succession of their kings and princes, from the first, to King Charles of happy memory, the description of the countrey, the history of the antient and moderne estate, the manner of the investure of the princes, with the coats of arms of the nobility."[1]

Mae'r gyfrol yn olrhain hanes y Brythoniaid a'r Cymry o laniad chwedlonol Brutus yn Ynys Prydain a'r ffug hanes am y Brythoniaid a geir yng ngwaith Sieffre o Fynwy hyd gyfnod y brenhinoedd a thywysogion Cymreig a wrthsafant y Saeson yn yr Oesoedd Canol.[1] Roedd Enderbie wedi priodi Cymraes ac ymsefydlu ym mhlwyf Llantarnam lle daeth i ddysgu Cymraeg ac i edmygu hanes cenedl y Cymry yn eu brwydr hir dros annibyniaeth.[2]

Yn ogystal, ceir adran gryno ar hanes y Tywysogion Cymru Seisnig ar ôl cwymp Llywelyn ap Gruffudd ac i gloi ceir disgrifiad o weinyddiaeth, daearyddiaeth ac adnoddau Cymru.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Cambria triumphans
  2. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).

Dolen allanol[golygu | golygu cod]