Cambria (Wisconsin)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Am enghreifftiau eraill o'r enw, gweler Cambria.
Location of Cambria, Wisconsin

Pentref yn Swydd Columbia, talaith Wisconsin, Unol Daleithiau America yw Cambria.

Yn wreiddiol galwyd y pentref yn Florence neu Langdon's Mills, wedyn Bellville. Daeth yr enw Cambria wedi i grŵp ymfudo o Gymru, yn cynnwys teuluoedd o ardal Dolwyddelan ym 1845. Roedd y criw yma wedi dechrau ar eu siwrnai yn cerdded o Ddolwyddelan i Drefriw gyda'r holl gymuned yn eu hebrwng, ac o Drefriw ar long i Lerpwl cyn hwylio ar draws Môr Iwerydd i Efrog Newydd. Bu farw rhai ar y daith.

Roedd J. Glyn Davies yn berthynas i rai o'r ymfudwyr, yn ddisgynydd o gangen o'r teulu a arhosodd yng Nghymru. Mewn erthygl a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth yntau, mae'n adrodd hanes ymweliad ganddo pan yn ddyn ifanc â Chambria ym 1898. Mae'n cofnodi sut roedd yr iaith Gymraeg yn fyw iawn yn y pentref bryd hynny, a'r brodorion yn barod i gyfarch un arall o'r un llwyth, ond bod yr arferion yn dechrau pallu wrth bod y gymdeithas yn cymysgu.

Ffynhonnell[golygu]

Cambria, Wisconsin in 1898 J. Glyn Davies, Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1957, pp. 128–159