Calsiwm carbonad

Oddi ar Wicipedia
Calsiwm carbonad
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathhalwyn calsiwm, halwyn carbonad Edit this on Wikidata
Màs99.947335 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolCaco₃ edit this on wikidata
Clefydau i'w trinDolur ar y dwodenwm, hematochezia, clefyd adlif gastro-oesoffagaidd, wlser gastrig, llosg cylla, clefyd cronig yr arennau, diffyg traul, osteoporosis, peptic esophagitis, clefyd wlser peptig edit this on wikidata
Yn cynnwyscalsiwm, ocsigen, carbon Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfansoddyn cemegol a deunydd crisialog gwyn, CaC03, sy'n hydawdd mewn dŵr asidig ydy Calsiwm carbonad.

Mae creigiau, megis calchfaen, sy'n cynnwys y mwyn hwn, yn araf hydoddi mewn dŵr glaw asidig (asid carbonig gwan). Dyma brif ddeunydd perlau, cregyn malwod a wyau.

Calsiwm carbonad yw'r prif cynhwysyn calch yn y byd amaethyddol. Mae sodiwm carbonad, copr carbonad, magnesiwm carbonad a sinc carbonad yn adweithio gydag asid – gan wneud sŵn hisian pan ddônt i gysylltiad ag asid. Fe ddefnyddir calsiwm carbonad mewn dull meddygol, yn enwedig pan geir diffyg calsiwm yn y corff, ond gall gormod ohon fod yn beryglys.

Cemeg[golygu | golygu cod]

Mae calsiwm carbonad yn rhannu nifer o nodweddion gyda charbonadau eraill, gan gynnwys:

CaCO3(s) + 2H+(aq) → Ca2+(aq) + CO2(g) + H2O
  • mae'n rhyddhau carbon deuocsid pan gaiff ei wresogi (sef adwaith dadelfennu thermal) neu galchu, (i fwy na 840 °C yn achos CaCO3), i ffurfio calsiwm ocsid, a elwir yn aml yn 'galch brwd' neu'n 'galch poeth', gyda'r adweithiad yn 178 kJ / mole:
CaCO3 (s) → CaO (s) + CO2 (g)

Mae calsiwm carbonad yn adweithio gyda dŵr sy'n ddirlawn o garbon deucsid i ffurfio sodiwm bicarbonad soled.

CaCO3 + CO2 + H2O → Ca(HCO3)2

Mae'r adwaith hwn yn hynod o bwysig yn y broses o erydu creigiau calchfaen, ac mae'n ffurfio ogofâu a cheudyllau, ac yn ffurfio dŵr caled mewn rhai mannau.

Defnyddiau calchfaen eraill[golygu | golygu cod]

Calsiwm hydrocsid: pan mae calchfaen yn cael ei wresogi'n gryf, mae'r calsiwm carbonad sydd ynddo’n dadelfennu gan ffurfio calsiwm ocsid.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]