Morwynion (teulu o bryfaid)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Calopterygidae)
Calopterygidae
Gwryw'r Calopteryx virgo
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Zygoptera
Teulu: Calopterygidae
Sélys, 1850
Isdeulu

Mae Morwynion (Lladin: Calopterygidae; Ffrangeg: demoiselles; Saesneg: jewelwings) yn deulu o 'fursennod' sy'n aml yn cael eu galw ar lafar yn weision y neidr, gan eu bod yn eitha tebyg. Dyma'r grŵp mwyaf oddi fewn i Is-Urdd y mursennod ac maen nhw'n mesur rhwng 50–80 mm o un pen yr adenydd i'r llall, sy'n eu gwneud yr un faint a gweision y neidr. Dim ond 44 mm yw lled adenydd y fursen gynffon las, er nghraifft. Mae eu lliw'n aml yn fetalig ac mae'r teulu'n cynnwys oddeutu 150 o rywogaethau gwahanol.

Eu cynefin yw glannau nentydd araf, parhaol gyda thyfiant ar fin y dŵr.

Etymoleg[golygu | golygu cod]

O'r Groeg y daw'r enw 'Calopterygidae': kalos sy'n golygu 'hardd' a ptery ('gydag adenydd').

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Ar wahân i'w lliw metalig a'u hadenydd hirion yr hyn sy'n eu gwneud yn wahanol i'r rhan fwyaf o fursennod yw eu cyrff, sy'n fwy llydan na'r arfer. Maen nhw hefyd yn cadw eu hadenydd yn glos wrth eu cyrff pan maent yn gorffwys. Glas yw lliw adenydd y gwryw, fel arfer, heb pterostigma, ac mae adenydd y fenyw yn frown. Ceir cryn dipyn o wythiennau drwy'r adenydd: dros 18 yn aml. Maen nhw'n sgipio hedfan, a hynny bron fel igian, hopian ar adegau. Y lle gorau i'w canfod yw ar frigau llorweddol wrth ochr nant fechan.[1][2]

Dosbarthiad[golygu | golygu cod]

Isdeulu Caliphaeinae Tillyard & Fraser, 1939:

Subfamily Calopteryginae Selys, 1859:

Subfamily Hetaerininae Selys, 1853:

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Dijkstra, 2006. Pages 23, 65.
  2. John L. Capinera (2008). Encyclopedia of Entomology. Springer Science & Business Media. tt. 1243–1244. ISBN 978-1-4020-6242-1.