Calon Lân
Oddi ar Wicipedia
Emyn Cymraeg a ysgrifennwyd yn y 19eg ganrif gyda geiriau gan Daniel James (Gwyrosydd) a thôn gan John Hughes yw Calon Lân.
Geiriau [golygu]
- Nid wy'n gofyn bywyd moethus,
- Aur y byd na'i berlau mân:
- Gofyn wyf am galon hapus,
- Calon onest, calon lân.
-
- Calon lân yn llawn daioni,
- Tecach yw na'r lili dlos:
- Dim ond calon lân all ganu
- Canu'r dydd a chanu'r nos.
- Pe dymunwn olud bydol,
- Chwim adenydd iddo sydd;
- Golud calon lân, rinweddol,
- Yn dwyn bythol elw fydd.
- Hwyr a bore fy nymuniad
- Gwyd i'r nef ar adain cân
- Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad,
- Roddi i mi galon lân.
Dolenni allanol [golygu]
- Y gerddoriaeth cy.cantorion.org