Calennig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Y cildwrn a roddir ar Ddydd Calan (Calan Gaeaf yn wreiddiol) yw Calennig, er y dyddiau hyn mae'n gyffredin i roi bara a chaws.[1] Hel calennig yw'r arfer o fynd o gwmpas yn casglu'r arian: ceiniog newydd fel arfer. Roedd yn rhaid casglu'r arian cyn canol dydd, fodd bynnag.

Mae'r hen draddodiad hwn yn parhau mewn rhai ardaloedd yng Nghymru o hyd. Mae prifddinas Cymru, Caerdydd, yn cynnal dathliadau Calennig ar ffurf gŵyl tri diwrnod i groesawu'r Flwyddyn Newydd. Mae hi'n cynnal Parêd Llusern Calennig trwy'r ddinas gydag arddangosfa weithdy tân fel rhan y dathliadau.

Mae llawer o bobl yn rhoi anrhegion ar fore Dydd Calan, ac mae plant yn cael afalau wedi'u rhoi ar sgiwer, wedi'u gorchuddio efo resins a ffrwyth.[1] Mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, mae'n rhaid i bobl ymweld â phob un person yn y teulu cyn hanner dydd er mwyn casglu eu calennig, ac mae dathliadau yn amrywio o ardal i ardal. Yn Stations of the Sun, mae Ronald Hutton yn rhoi enghraifft o rigwm calennig o Aberystwyth o'r 1950au a chenid wrth gasglu'r calennig,

Dydd calan yw hi heddiw,
Rwy'n dyfod ar eich traws
I ofyn am y geiniog,
Neu grwst, a bara a chaws.
O dewch i'r drws yn siriol
Heb nesid dim o'ch gwedd;
Cyn daw dydd calan eto
Bydd llawer yn y bedd.[1]

Mae Ronald Hutton hefyd yn nodi yn ne-ddwyrain Cymru ac yn ardal Fforest y Ddena, gelwir yr afal ar sgiwer ei hun y calennig, ac yn ei ffurf fwyaf manwl, mae'n cynnwys "afal neu oren, sy'n gorffwys ar dair ffon fel trybedd, wedi dwbio â blawd, cnau, ceirch neu wenith, wedi topio â theim neu berlysieuyn persawrus arall."[1]

Dyma fersiwn arall o Cwm Eithin gan Hugh Evans:

Calenig wyf yn 'mofyn Ddydd Calan ddechrau'r flwyddyn,
A bendith fyth fo ar eich tŷ
Os tycia im gael tocyn.

Calennig i mi, Calennig i'r ffon,
Calennig i fwyta'r noswaith hon:
Calennig i'm tad am glytio'm 'sgidia,
Calennig i mam am drwsio fy sana.

Rhowch galennig yn glonog
I ddyn gwan heb geiniog,
Gymaint roddwch rhowch yn ddiddig,
Peidiwch grwgnach am ryw chydig!

'Nghalennig i'n gyfan ar fore dydd Calan:
Blwyddyn Newydd Dda i chwi![2]

Os gwrthodir rhoi calennig, yna bloeddir Blwyddyn newydd ddrwg - a llond y tŷ o fwg!

Yng Ngheredigion a Sir Benfro, arferid canu'r pennill canlynol,

Mi godais heddiw mas o'm tŷ
A'm cwd a'm pastwn gyda mi,
A dyma'm neges ar eich traws,
Sef llanw'm cwd â bara a chaws.

Yn ardal Dyffryn Teifi, cenir y canlynol,

Blwyddyn newydd dda i chi,
Ac i bawb sydd yn y tŷ,
Dyna yw'n dymuniad ni,
Blwyddyn newydd, dda i chi.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 . ISBN 0-19-820570-8. 
  2. Hugh Evans, Cwm Eithin (Gwasg y Brython, 1931).

Dolen allanol[golygu]