Calendr Gregori
| Rhybudd! |
Er bod peth gwybodaeth o werth ar y dudalen hon, nid yw'r erthygl fel y mae yn cyrraedd y safon angenrheidiol i'w chynnwys ar Wicipedia. Os na chaiff yr erthygl ei gwella'n ddigonol ymhen wythnos wedi 28 Ionawr 2012, fe all gael ei dileu. Os caiff yr erthygl ei gwella'n sylweddol, wedyn mae croeso i chi dynnu'r neges hon oddi ar y dudalen. Sylwer: Os oes amheuaeth, codwch y mater yn Wicipedia:Tudalennau amheus. |
Mabwysiadwyd Calendr Gregori gan y Pab Gregory XIII ar 24 Chwefror 1582 (ond roedd y y ddogfen wedi'i dyddio '1581' oherwydd nad oedd y flwyddyn newydd yn dechrau tan 25 Mawrth).
Roedd y flwyddyn yn hen galendr Iŵl Cesar yn cynnwys 365.25 o ddyddiau yn union, ond mae'r flwyddyn trofannol yn 365.2422 dyddiau -- felly pob mil of flynyddoedd mae'r calendr yn ychwanegu 8 diwrnod, gan achosi'r tymhorau i symud trwy'r flwyddyn.
Cynnwys |
[golygu] Cywirdeb
Mae'r Calendr Gregoriaidd yn fwy cywir na'r hen galendr trwy sgipio 3 diwrnod naid Julianaidd pob 400 o flynyddoedd, yn creu blwyddyn cyfartalog 365.2425 dyddiau hir, sef yn rhoi gwall o 1 diwrnod pob 3000 o flynyddoedd.
[golygu] Hanes
[golygu] Dyfeisiad
Roedd yr Eglwys Gatholig eisiau calendr a fyddai'n eu caniatáu i ddathlu'r Pasg ar yr amser roedd Cyngor Cyntaf Nicaea wedi penderfynu yn y flwyddyn 325, sef y Sul wedi'r 14eg dydd y Lleuad sydd ar neu wedi'r Cyhydnos Wanwynol, tua 21 Mawrth yn amser y cyngor. Yn y flwyddyn 325 roedd drifft y tymhorau ers amser Iŵl Cesar wedi cael ei weld, ond, yn hytrach na thrwsio'r calendr symudodd y cyngor dyddiad y Cyhydnos o 24 Mawrth neu 25 Mawrth i 21 Mawrth! Erbyn y 16eg canrif roedd y cyhydnos wedi symud llawer mwy.