Caiaffas

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Crist o flaen Caiaphas. Paentiad gan Bachiacca, 16eg ganrif

Yn ôl y Testament Newydd, Joseff Caiaffas (fl. 18 - 37 OC) oedd yr archoffeiriad y dygwyd Iesu o Nasareth o'i flaen i sefyll ei brawf. Roedd yn fab-yng-nghyfraith i Annas.

Archoffeiriad Judaea oedd Caiaffas. Yn wreiddiol, prif offeiriad y Lefitiaid, yr offeiriadaeth a oedd yn ddisgynyddion o lwyth Lefi, oedd yr archoffeiriad Iddewig. Erbyn cyfnod y Rhufeiniaid, yr archoffeiriad hwnnw oedd pennaeth gwladwriaeth Judaea. Roedd yn cael ei apwyntio gan y Rhufeiniaid.

Mae Caiaffas yn enwog am ei ran yn hanes croeshoelio Iesu o Nasareth fel y'i adroddir yn y Testament Newydd. Bradychwyd Iesu gan Jiwdas Iscariot a chafodd ei arestio gan heddlu'r archoffeiriad yng ngardd Gethsemane a'i ddwyn o flaen Caiaffas. Fel pennaeth y Sanhedrin, roedd yn awyddus i dawelu'r dyfroedd am fod perygl y byddai'r Iddewon yn codi mewn gwrthryfel yn erbyn y Rhufeiniaid a dwyn dinistr ar y genedl Iddewig. Roedd yn well aberthu un Iddew na gweld colli popeth. Yn ôl y Testament Newydd, ceisiodd Caiaffas ac Annas dwyllo Iesu i ddweud cabledd. Pan gyfaddefodd ei fod "y Meseia a addewyd", rhwygodd Caiaffas ei ddilad fel arwydd o glywed cabledd a farnwyd Iesu yn euog gan y Sanhedrin. Ond doedd ganddynt ddim grym i'w ddeddfrydu ac felly cafodd ei arwain o flaen Pontius Pilat.

Ar ôl y Groeshoeliad, dywedir fod Caiaffas wedi parhau i erlid y Cristnogion cynnar. Ymddangosodd y seintiau Pedr ac Ioan o'i flaen am wneud miraglau yn y Deml. Rhoddwyd Sant Steffan i farwolaeth ganddo. Anfonodd Saul (Sant Paul) i Ddamascus i geisio atal ymlediad y grefydd newydd.

Ond ceir anghysondebau mawr yn yr hanes ac mae rhai ysgolheigion Beiblaidd yn amau fod hanes y prawf o flaen Caiaffas, yn enwedig, wedi cael ei ychwanegu yn ddiweddarach er mwyn rhoi'r bai i gyd ar yr Iddewon yn lle'r Rhufeiniaid (roedd nifer o'r Cristnogion cynnar yn ddinesyddion Rhufeinig).

Ffynhonnell[golygu]

  • J. C. J. Metford, Dictionary of Christian lore and legend (Thames & Hudson, 1983).