Caer Dathyl

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bryngaer anhysbys y cyfeirir ati yn chwedl Math fab Mathonwy, sef bedwaredd gainc y Mabinogi, yw Caer Dathyl (amrywiad: Caer Dathal). Cyfeirir ati fel 'Caer Dathyl yn Arfon' ond mae ei lleoliad yn ansicr. Yn y chwedl lleolir llys Math fab Mathonwy yno.

Pen-y-gaer, Dyffryn Conwy.

Awgrymodd John Rhŷs ac eraill mai Pen-y-Gaer ger Llanbedr-y-Cennin, Dyffryn Conwy, a olygir, ond mae'n rhy bell i'r dwyrain. Yn y chwedl mae Gwydion yn dwyn moch Pryderi i Fochdre, cantref Rhos. Yna mae'n croesi Afon Conwy i gantref Arllechwedd ac yn codi creu i'r moch yng Nghreuwryon (safle ger Tregarth, ar ochr orllewinol Dyffryn Ogwen). Oddi yno mae'n mynd yn ei flaen i Bennardd yn Arfon ac yna i Gaer Dathyl ei hun.

Mae Ifor Williams yn cynnig sawl caer bosibl ond yn cyfaddef nad oes modd profi dilysrwydd unrhyw un ohonynt fel safle Caer Dathyl. Rhaid ei bod rhywle yng ngogledd Arfon, rhwng Llanddeiniolen a'r Eifl. Byddai Tre'r Ceiri yn ddewis deniadol, a dyna sy'n denu bryd Ifor Williams a W. J. Gruffydd, ond mae hi'n rhy bell i'r gorllewin ac yn gorwedd yng hen gantref Llŷn yn hytrach nag Arfon.

Yn ei ymgais i ennill enw i Leu Llaw Gyffes, mae Gwydion a'r llanc yn cerdded o Gaer Dathyl i gyfeiriad Abermenai ar Afon Menai i gyrraedd Caer Arianrhod.

Mae'r enw Caer Dathyl yn awgrymu cysylltiad Gwyddelig. Treigliad yw 'Dathyl' o'r enw personol Gwyddeleg 'Tathyl' neu 'Tathal'/'Tuathal' ('Tudwal' yw'r ffurf gyfatebol yn y Gymraeg).

Ffuglen[golygu]

O Gaer Dathyl ffuglennol mae Uchel Frenin Prydain yn rheoli yn y gyfres ffuglen ffantasi boblogaidd Chronicles of Prydain gan Lloyd Alexander.

Ffynonellau[golygu]

  • W. J. Gruffydd, Math vab Mathonwy (Caerdydd, 1928)
  • Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930)