Cachí, Costa Rica

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Tref yn Nyffryn Orosí, Costa Rica, yw Cachí, sydd yn Nhalaith Cartago yng nghanolbarth y wlad i'r de-ddwyrain o Cartago, prifddinas y dalaith honno.

Mae'n gorwedd ger glan ddwyreiniol Llyn Cachí, a grëwyd yn y 1970au trwy godi argae ar Afon Reventazon a oedd llifo heibio i'r dref ei hun cyn hynny. Cysylltir y dref gyda Ujarrás, ar ochr arall y llyn.

Flag of Costa Rica.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Costa Rica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.