C.P.D. Caersŵs

Oddi ar Wicipedia
C.P.D. Caersws
Enw llawn Clwb Pêl-droed Caersŵs
Llysenw(au) Yr Adar Gleision
Sefydlwyd 1879 (fel Amaturiaid Caersŵs)
Maes Y Cae Chwarae
Rheolwr Baner Cymru Graham Evans
Cynghrair Cynghrair Undebol


Clwb pêl-droed yng Nghaersŵs, Powys yw Clwb Pêl-droed Caersŵs (Saesneg: Caersws Football Club) sy'n chwarae yng Nghynghrair Undebol Huws Gray, sef prif adran gogledd Cymru ac ail reng pyramid pêl-droed cenedlaethol Cymru.

Ffurfwyd y clwb yn 1879 fel Amaturiaid Caersŵs cyn gollwng y gair Amatur o'u henw ym 1974[1] ac maent yn chwarae eu gemau cartref ar Y Cae Chwarae.

Hanes[golygu | golygu cod]

Er i'r clwb gael eu ffurfio ym 1879, bu rhaid disgwyl tan 1920-21 am eu hymddangosiad cyntaf yng Nghwpan Cymru lle cafwyd crasfa 8-1 gan Y Drenewydd[2]. Ychydig iawn o lwyddiant brofodd y clwb cyn y 1960au, pan lwyddodd y clwb i enill Cynghrair Canolbarth Cymru yn 1959-60[3], 1960-61[4] a 1962-63[5].

Rhwng 1978 a 1989 llwyddodd Caersŵs i ennill Cynghrair Canolbarth Cymru ar bump achlysur cyn cael gwahoddiad i fod yn rhan o gynghrair newydd y Gynghrair Undebol ar gyfer tymor 1990-91[6][7].

Yn 1992 cafodd y clwb wahoddiad i fod yn un o'r 20 clwb yn nhymor cyntaf Uwch Gynghrair Cymru gan orffen y tymor cyntaf yn yr 11eg safle[8].

Bu i'r clwb gynyrchioli Cymru yn nhlws Intertoto yn 2002, gan golli yn erbyn PFC Marek Dupnitsa o Bwlgaria.

Record Ewropeaidd[golygu | golygu cod]

Tymor Cystadleuaeth Rownd Clwb Cymal 1af 2il Gymal Dros Ddau Gymal
2002 Tlws Intertoto Rd 1 Baner Bwlgaria PFC Marek Dupnitsa 0–2 1-1 1–3

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Cwpan Cynghrair Cymru: 3
    • Enillwyr: 2000-01, 2001-02, 2006-07
    • Cyrraedd y Rownd Derfynol: 1992-93
  • Cwpan Amatur Cymru: 1
    • Enillwyr: 1960-61
    • Cyrraedd y Rownd Derfynol: 1952-53, 1962-63, 1963-64

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Profile:Caersws". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-14. Cyrchwyd 2015-07-08. Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "Welsh Cup:1920-21". Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Mid Wales League: 1959-60". Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Mid Wales League: 1960-61". Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "Mid Wales League: 1962-63". Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. "Cymru Alliance History". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd 2018-11-26. Unknown parameter |published= ignored (help)
  7. "Cymru Alliance: 1990-91". Unknown parameter |published= ignored (help)
  8. "Teithio'r Tymhorau: 1992-93". Unknown parameter |published= ignored (help)
Cynghrair Undebol, 2018-19

Airbus UK | Bangor | Bwcle | Cegidfa | Conwy | Dinbych | Gresffordd | Hotspur Caergybi |
Llanrhaeadr | Penrhyncoch | Porthmadog | Prestatyn | Rhuthun | Treffynnon Y Fflint | Y Rhyl