C.P.D. Airbus UK Brychdyn
| C.P.D. Airbus UK | |||
| Enw llawn | Clwb Pêl-droed Airbus U.K | ||
| Llysenw(au) | The Wingmakers | ||
|---|---|---|---|
| Sefydlwyd | 1946 (fel Vickers-Armstrong) | ||
| Maes | The Airfield, Brychdyn | ||
| Cynhwysedd | 2,100 | ||
| Cadeirydd | Michael Mayfield | ||
| Rheolwr | |||
| Cynghrair | Cynghrair Cymru | ||
| 2008-2009 | 12fed | ||
|
|||
Mae Clwb Pêl-droed Airbus UK yn glwb Pêl-droed sydd ar hyn o bryd yn chwarae yn Uwchgynghrair Cymru. Mae'r clwb wedi'i leoli ym Mrychdyn, Sir y Fflint. Yn ôl arferiad, y nhw ydi tîm gwaith cwmni Airbus er i'r statws yma esblygu ychydig ers iddynt ddatblyg fel clwb. Am ychydig wythnosau ar ôl eu dyrchafiad i'r Uwchgynghrair, bu iddynt rannu maes gyda Conwy United tra roedd gwaith yn cymryd lle ar eu cartref, 'The Airfield'.
[golygu] Hanes
Ffurfwyd y Clwb yn 1946, ac ers hynny mae'r clwb wedi cael ei adnabod fel sawl enw cyn i'r enw presennol, Airbus UK ddod i'r amlwg. Rhai blaenorol ydi de Havillands, Hawker Siddeley, British Aerospace, a BAE Systems. Fe enillwyd dyrchafiad i Gynghrair Undebol y Gogledd yn 2000. Ar ôl gorffen yn 11eg, 8fed a 5ed, daeth llwyddiant ysgubol yn 2003/04 pan wnaethant ennill y gynghrair a derbyn dyrchafiad i Uwchgynghrair Cymru. Doedd bywyd ddim yn hawdd ar y dechrau, a bu i'r rheolwr Rob Lythe ymddiswyddo ym mis Chwefror oherwydd anhawsterau personol. Er hyn, diolch yn bennaf i fuddugoliaeth dros eu cymdogion agos, Cei Conna, wnaeth y clwb allu aros i fyny. Eu rheolwr presennol ydi Gareth Owen, cyn chwaraewr gyda Wrecsam.
| Cynghrair Cymru, 2011–2012 | ||
|---|---|---|
|
Tref Aberystwyth | Afan Lido | Airbus UK Brychdyn | Tref Y Bala | Dinas Bangor | Tref Caerfyrddin | Castell Nedd | Y Drenewydd | Llanelli | Port Talbot | Tref Prestatyn | Y Seintiau Newydd |