Côr Meibion Pontarddulais

Oddi ar Wicipedia
Côr Meibion Pontarddulais
TarddiadPontarddulais, Abertawe, Cymru
Cyfnod perfformio1960 (1960)–presennol (presennol)
Gwefanwww.pontarddulaismalechoir.com/cymraeg/index.php

Fel côr ieuenctid y cychwynodd Côr Meibion Pontarddulais a hynny yn 1960 o dan arweiniad Noel Davies MBE. Ers ei sefydlu mae'r côr wedi bod yn hynod lwyddiannus mewn cystadleuthau safonol, gan gynnwys ennill ei bumed fuddugoliaeth ar ddeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yn 2008 ac wedi teithio'n eang drwy Ewrop yn ogystal â Chanada ac Unol Daleithiau America.[1]

Yn 2001 a 2004 enillodd y côr wobr gyntaf yng nghystadleuaeth y Corau Meibion yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a thros y blynyddoedd cipiwyd deg gwobr gyntaf yn Eisteddfod Ceredigion, pump yn Eisteddfod Glowyr Porthcawl a dwywaith yn Eisteddfod Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid (1965 a 1968).

Hanes y Côr[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y côr ym 1960, dan arweiniad y Noel Davies a hynny fel "Côr Ieuenctid Pontarddulais" ac enillodd mewn Eisteddfodau Ieuenctid. Roedd yn un o nifer o gorau enwog mewn ardal cymharol fychan. O fewn ychydig fisoedd, tyfodd y côr i dros 80 o leisiau gan ei wneud yn gymwys i gystadlu fel côr meibion.

Roedd Eisteddfod Genedlaethol Llandudno yn 1963 yn garreg filltir bwysig i'r côr, pan wnaethant gipio'r brif wobr o dan drwyn ambell gôr llawer mwy profiadol. Ar bum achlysur mae'r côr wedi perfformio yn Neuadd Albert, Llundain.

Noddwyr Anrhydeddus[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Côr Meibion Pontarddulais adalwyd 23 Gorffennaf 2013