Célestin Hennion

Oddi ar Wicipedia
Célestin Hennion
Ganwyd8 Medi 1862 Edit this on Wikidata
Gommegnies Edit this on Wikidata
Bu farw14 Mawrth 1915 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
Sainte-Adresse Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethheddwas, swyddog Edit this on Wikidata
SwyddPrefect of Police of Paris Edit this on Wikidata
Gwobr/auOfficier de la Légion d'honneur, Commander of the Royal Victorian Order Edit this on Wikidata
llofnod

Swyddog heddlu Ffrangeg oedd Célestin Hennion CVO (8 Medi 186214 Mawrth 1915), a ddaeth yn Préfecture de Police. Mae'n nodweddiadol oherwydd iddo aildrefnu'r Préfecture a chyflwyno'r Brigades du Tigre.[1] Cysidrir ef i fod yn gyfrifol am siapio ffurf a gwaith yr heddlu cyfoes.[2]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Hennion yn Gommegnies yn 1862, yn fab i Joseph Ghislain Hannion a Mary Catherine Basilaire. Addysgwyd yn Lycee Le Quesnoy. Ar ôl gadael yr ysgol ramadeg ymunodd â Byddin Ffrainc, a cafodd ei swyddi yn Tiwnisia fel rhan o'r 110fed catrawd gwŷr traed, o 1880 hyd 1885, yn ystod yr adeg hwnnw daeth Tiwnisia yn Protectoriaeth Ffrengig.

Perthnasau enwog[golygu | golygu cod]

Ar raglen cyntaf 7fed cyfres Who Do You Think You Are? y BBC, datgelwyd fod Davina McCall yn or-wyres i Hennion.[3] Rhoddodd Pierre, mab Hennion a thaid McCall, fedal Royal Victorian Order Hennion iddi, a dangoswyd hwn ar y rhaglen.[4] Yn y rhaglen, a ddarlledwyd am y tro cyntaf ar 15 Gorffennaf 2009, dysgodd McCall hanes Hennion gan y haneswyr Jean-Marc Berliere a Simon Kitson yn ogystal â chefnder mam McCall, wyres Hennion, sef Françoise Hennion. Wedi clywed sut y bu ei hen-thiad yn ymwneud â'r Achos Dreyfus, cyfarfodd hefyd â gor-wyres Alfred Dreyfus, Yael Ruiz.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  History of the Museum - 20th Century. The prefecture de police museum.
  2.  Célestin Hennion, Préfet de Police - Créateur des "Brigades du Tigre".
  3.  Who Do You Think You Are? - Davina McCall. The National Archives (2009-07-16).
  4. 4.0 4.1  BBC Two Who Do You Think You Are?, Series 7, Davina McCall (2009-07-15).