Kensington a Chelsea (Bwrdeistref Brenhinol)
Bwrdeistref yn Ne-Orllewin Llundain, Lloegr yw Bwrdeistref Brenhinol Kensington a Chelsea neu Kensington a Chelsea (Saesneg: Royal Borough of Kensington and Chelsea; Anffurfiol: "RBK" neu "RBK and C") sydd yn ffurfio rhan o Lundain Fewnol. Ardal ddinesig ydwy, ac yn ôl Cyfrifiad 2001 dyma awdurdod lleol mwyaf dwys ei phoblogaeth yn y Deyrnas Unedig gyda 13,244 person i bob cilometr sgwâr. Mae hefyd yn un o ddau bwrdeistref yn Llundain Fawr a ddynodir yn "Fwrdeistref Brenhinol" (Saesneg: Royal Borough). Y llall yw Bwrdeistref Brenhinol Kingston upon Thames.
Lleolir yn union i'r gorllewin o Ddinas Llundain ac i'r dwyrain o fwrdeistref Hammersmith a Fulham. Ynddi mae siop adrannol Harrods, carnifal mwyaf Ewrop sef Carnifal Notting Hill a nifer o lysgenhadaethau yn ardaloedd Belgravia a Knightsbridge. Mae hefyd yn gartref i rai o ardaloedd preswyl drytaf y byd.
Ardaloedd[golygu]
Mae'r bwrdesitref yn cynnwys yr ardaloedd canlynol:
- Bayswater (Rhan)
- Belgravia
- Brompton
- Chelsea
- Earl's Court
- Holland Park
- Kensington
- Kensal Town
- Knightsbridge (Rhan)
- Ladbroke Grove
- Gogledd Kensington
- Notting Hill
- De Kensington
- Kensington High Street
- West Brompton
- Westbourne Park
- West Kensington (Rhan)
Atyniadau a sefydliadau nodedig[golygu]
Mae nifer o atyniadau a sefydliadau nodedig o fewn y bwrdeistref:
- Yr Amgueddfa Wyddoniaeth ac Yr Amgueddfa Hanes Naturiol
- Amgueddfa Victoria & Albert
- Brompton Oratory
- Earl's Court
- Harrods
- Imperial College (rhan)
- Kensington High Street
- Kensington Palace
- King's Road
- Ladbroke Grove
- Notting Hill Gate
- Olympia (rhan)
- Oriel Saatchi
- Portobello Road
- Royal Hospital Chelsea
- Sloane Street