Bwlch yr Efengyl

Oddi ar Wicipedia
Bwlch yr Efengyl
Disgyn o Fwlch yr Efengyl i gyfeiriad Dyffryn Ewias
Mathbwlch Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.9044°N 3.0201°W Edit this on Wikidata
Map

Bwlch yn y Mynydd Du, Powys yw Bwlch yr Efengyl (Saesneg: Gospel Pass). Mae'n gorwedd rhwng Y Gelli Gandryll a Capel-y-ffin yn ne-ddwyrain Powys, bron am y ffin â Swydd Henffordd, Lloegr. Dyma'r bwlch uchaf yng Nghymru sydd â ffordd fodur gyhoeddus yn arwain drosto.

Gorwedd pen y bwlch 549 metr (1,800 troedfedd) i fyny rhwng mynyddoedd Twmpa (690 m), i'r gorllewin a Hay Bluff (677 m), i'r dwyrain, o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae lôn fynydd yn ei groesi sy'n rhan o Lôn Las Cymru, y llwybr beicio cenedlaethol.[1]

O ben y bwlch ceir golygfeydd dros Ddyffryn Ewias i'r de a Dyffryn Gwy i'r gogledd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Lôn Las Cymru: 42 ar wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.