Bwlch Ronsyfal

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bwlch Ronsyfal

Bwlch yn y Pyreneau ger y ffîn rhwng Ffrainc a Sbaen yw Bwlch Ronsyfal (Ffrangeg: Col de Roncevaux, Sbaeneg: Puerto de Ibañeta, Basgeg: Ibañeta). Saif y bwlch ei hun, ar uchder o 1,057 medr, yn Sbaen.

Mae'r bwlch yn enwog am Frwydr Ronsyfal ar 15 Awst 778, pan orchfygwyd rhan ôl byddin Siarlymaen gan y Basgiaid. Lladdwyd Rolant, arglwydd Mers Llydaw ac arweinydd y rhan yma o fyddin Siarlymaen, digwyddiad a ysbrydolodd y gerdd La Chanson de Roland. Mae'r Camino de Santiago yn mynd dros y bwlch.