Buwch Frech

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bwrdd dehongli ar lan Cronfa Alwen gyda hanes Y Fuwch Frech

Buwch o lên gwerin Cymru yw'r Fuwch Frech neu Buwch Fraith Hiraethog.

Yn ei draethawd ar lên gwerin, ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 1887, disgrifia Elias Owen stori am fuwch hudol o ardal Mynydd Hiraethog. Roedd yn wyn pur gyda brychni pinc ac roedd ganddi gyflwenwad diddiwedd o lefrith. Roedd y fuwch yn darparu llefrith i drigolion yr ardal ond fe'i twyllwyd gan wrach genfigennus a geisiodd ei godro'n sych. Y dilyn hyn fe ddiflannodd y fuwch, gan gerdded i mewn i lyn cyfagos ac fe'i dilynwyd i'r llyn gan ddau Ychen Bannog yr oedd hi'n fam arnynt.

Yn ôl Hugh Evans yn ei lyfr Y Tylwyth Teg, trigai'r fuwch—a elwir yn 'Fuwch Fraith Hiraethog' gan yr awdur—"yn rhywle rhwng y Clawdd Newydd a Llyn Dau Ychen." Arferai grwydro o amgylch ardal Uwch Aled a chyflenwi llefrith i'r bobl leol. Ceir hanes yr hen wrach sy'n gyrru'r fuwch yn wallgof am nad oedd ganddi lefrith a sut y diflannodd wedyn i Lyn Dau Ychen.[1]

Mae chwedl y Fuwch Frech yn perthyn i gylch o draddodiadau am wartheg arallfydol a geir yn llên gwerin y Celtiaid: ceir enghraifft arall yng Nghymru yn chwedl Arglwyddes Llyn y Fan. Mae'n bosibl fod y chwedlau hyn yn gof gwerin am un o dduwiesau'r Celtiaid fel Boann, duwies y gwartheg ym mytholeg Iwerddon.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Hugh Evans, Y Tylwyth Teg (Lerpwl, 1935), tud. 53.