Busnes yng Nghymru
Oddi ar Wicipedia
Pwnc yr erthygl hon yw'r sectorau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru. Am wybodaeth ynglŷn â'r economi i gyd, gweler Economi Cymru. Am wybodaeth ynglŷn â diwydiannau penodol, gweler Diwydiant Cymru.
Mae cwmnïau a busnesau Cymreig wedi cael eu disgrifio fel "asgwrn cefn economi Cymru".[1][2] Mae 99% o'r busnesau yng Nghymru yn Fusnesau Bach a Chanolig (BBaChau), sy'n cyflogi llai na 250 o bobl, ac y mwyafrif ohonynt yn ficro-sefydliadau, hynny yw maent yn cyflogi llai na 10 o weithwyr. Er y nifer fawr o fusnesau bach a chanolig, y prif gyflogwr yng Nghymru yw'r sector cyhoeddus.[3]
Cynnwys |
Perchenogaeth busnes [golygu]
Daw rheoliadau perchenogaeth busnes yng Nghymru o dan gyfraith Cymru a Lloegr. Y mathau gwahanol o fusnesau a chwmnïau yw Cwmni Rhwymedigaeth Cyfyngedig Cyhoeddus, Cwmni Rhwymedigaeth Cyfyngedig, Partneriaeth Cyffredinol, Partneriaeth Cyfyngedig, Unig Fasnachwr, Cydweithrediad, a Phartneriaeth Rhwymedigaeth Cyfyngedig.
Gweler hefyd [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Busnes – Pleidleisiau a Thrafodion. Cynulliad Cenedlaethol Cymru (23 Ionawr, 2008). Adalwyd ar 10 Chwefror, 2008. ""busnesau bach a chanolig eu maint yw asgwrn cefn economi Cymru""
- ↑ Grantiau Llywodraeth y Cynulliad yn creu 122 o swyddi newydd yng Ngogledd Cymru. Llywodraeth Cynulliad Cymru (6 Mai, 2002). Adalwyd ar 10 Chwefror, 2008. "Cwmnïau bach yw asgwrn cefn economi Cymru ac maent yn gwneud cyfraniad enfawr i’n cyfoeth a’n llwyddiant."
- ↑ Proffiliau Diwydiannau Allweddol: Trosolwg Cymru. GO Wales. Adalwyd ar 24 Mai, 2008.
Dolenni allanol [golygu]
|
||||||||||||||