Burkhan Khaldun
Oddi ar Wicipedia
Mynydd ym Mynyddoedd Khentii yn nhalaith Kentii aimag ym Mongolia yw'r Burkhan Khaldun (Mongoleg: Бурхан Халдун). Mae'n un o'r safleoedd a gysylltir a Genghis Khan; dywedir iddo gael ei eni yno a hefyd fod ei feddrod yno mewn lle dirgel.
Gorwedd y mynydd yn ardal gadwraeth gyfyngedig 12,000 km² Khan Khentii, a sefydlwyd gan lywodraeth y wlad yn 1992. Mae'n cael ei ystyried gan y Mongolwyr fel mynydd sanctaidd, am iddo gael ei ddynodi felly gan Genghis Khan ei hun.
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) UNESCO