Buddug Williams

Oddi ar Wicipedia
Buddug Williams
Ganwyd1932 Edit this on Wikidata
Cefneithin Edit this on Wikidata
Bu farw24 Gorffennaf 2021 Edit this on Wikidata
Pen-y-groes Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor teledu, actor ffilm, athro Edit this on Wikidata

Actores o Gymraes oedd Buddug Williams (193224 Gorffennaf 2021). Roedd yn fwyaf adnabyddus am chwarae cymeriad 'Anti Marian' rhwng 1999 a 2016 yn nrama sebon Pobol y Cwm ar S4C. Ar gychwyn y gyfres yn 1974 bu'n chwarae cymeriad arall, Bet Harries, mam Wayne, Sabrina a Reg.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Roedd yn hanu o bentref Cefneithin yng Nghwm Gwendraeth. Bu'n hyfforddi fel athrawes yn Ngholeg y Barri ac aeth i ddysgu am gyfnod byr yn Birmingham.

Arferai berfformio gyda chwmnïau lleol yn Nghwm Gwendraeth ac yn Birmingham roedd yn rhan o The Welsh Centre Amateur Drama Society. Ymddangosodd mewn ffilmiau fel Twin Town a Very Annie Mary yn ystod ei gyrfa.

Ymunodd â Phobol y Cwm fel cymeriad rheolaidd yn 1999 gan chwarae Marian Rees, gwraig i Bob Rees ac yna modryb fusneslyd i Denzil Rees. Bu farw cymeriad Anti Marian yn ei chwsg mewn pennod a ddarlledwyd ar 24 Chwefror 2016.[1]

Ysgrifennodd Buddug ei hunangofiant yn y gyfrol Merch o'r Cwm.[2]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd yn briod ag Elwyn, a fu farw yn 2011 ac roedd ganddynt fab, Rhodri. Bu farw Buddug yn 88 mlwydd oed ar ddydd Sadwrn, 24 Gorffennaf 2021 yng Nghartref Plas y Bryn, Penygroes.[3][4] Cynhaliwyd ei hangladd ar ddydd Gwener, 13 Awst 2021, yn Amlosgfa Llanelli am 1.00pm o'r gloch.

Gwaith[golygu | golygu cod]

Teledu[golygu | golygu cod]

  • Pobol y Cwm - Bet Harries (1974), Marian Rees neu 'Anti Marian' (1999–2016)

Ffilm[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Diwedd cyfnod - Cwsg mewn hedd. BBC Pobol y Cwm (24 Chwefror 2016).
  2. Dathlu'r 40 yng Nghwmderi , BBC Cymru Fyw, 16 Hydref 2014. Cyrchwyd ar 25 Chwefror 2016.
  3. Yr actores Buddug Williams wedi marw yn 88 oed , BBC Cymru Fyw, 25 Gorffennaf 2021.
  4.  Hysbysiad marwolaeth Buddug Williams. Western Mail (31 Gorffennaf 2021). Adalwyd ar 2 Awst 2021.