Bucureşti
Oddi ar Wicipedia
Afon Dâmboviţa yng nghanol Bucureşti
Bucureşti (Saesneg: Bucharest, Ffrangeg: Bucarest) yw pridffinas Rwmania. Saif yn ne-ddwyrain y wlad, ar afon Dâmboviţa. Gyda phoblogaeth o 2,082,000 yn 2003, ni yw trydydd dinas de-ddwyrain Ewrop o ran poblogaeth, ar ôl Istanbul ac Athen.
Ceir y cofnod cyntaf am y ddinas yn 1459. Daeth yn brifddinas Rwmania yn 1862. Rhwng y ddau Ryfel Byd, cyfeirid at y ddinas fel "Paris Fechan" (Micul Paris) neu "Paris y Dwyrain". Ers hynny, dinistriwyd llawer o'r canol hanesyddol, yn gyntaf yn yr Ail Ryfel Byd yna yn naeargryn 1977 a thrwy bolisïau adeiladu Nicolae Ceauşescu.
[golygu] Adeiladau a chofadeiladau
- Arcul de Triumf
- Atheneum
- Palas y Senedd
- Theatr genedlaethol
[golygu] Pobl enwog o Bucureşti
- Nicolae Bălcescu (1819-1852), milwr a gwleidydd
- Dora d'Istria (1828-1888), awdures
- Edward G. Robinson (1893-1973), actor
- Richard Wurmbrand (1909-2001), gweinidog ac awdur
- Ilie Năstase (g. 1946), chwaraewr tenis