Brynmawr
Cyfesurynnau: 51°47′46″N 3°10′59″W / 51.796°N 3.183°W
| Brynmawr | |
|
|
|
| Poblogaeth | 5,599 [1] |
|---|---|
| Cyfeirnod grid yr AO | SO185115 |
| Prif ardal | Blaenau Gwent |
| Sir seremonïol | Gwent |
| Gwlad | Cymru |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | GLYN EBWY |
| Rhanbarth cod post | NP23 |
| Cod deialu | 01495 |
| Yr Heddlu | Gwent |
| Tân | De Cymru |
| Ambiwlans | Cymru |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Cymru |
| Senedd y DU | Blaenau Gwent |
| Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Blaenau Gwent | |
- Gweler hefyd Bryn Mawr, Pennsylvania.
Tref farchnad ym Mlaenau Gwent, de Cymru ydy Brynmawr. Saif y dref, weithiau fe'i dyfynnir yn dref uchaf Cymru, rhyw 1,250 i 1,500 traed uwchlaw lefel y môr ar ben Cymoedd De Cymru. Tyfodd hi yn ystod cyrhaeddiad y gweithfeydd glo a diwydiannau haearn yn y 19eg ganrif gynnar.
Mae Caerdydd 35 km i ffwrdd o Frynmawr ac mae Llundain yn 215.1 km. Y ddinas agosaf ydy Casnewydd sy'n 26.4 km i ffwrdd.
Yn wreiddiol, roedd hi'n anheddiad pentrefol bach o'r enw Gwaen Helygen (Cors Helygen mewn Cymraeg Cyfoes, neu "Marsh of the Willow" yn Saesneg) a oedd yn gorwedd yn y sir flaenorol o Sir Frycheiniog. Gydag ehangiad gwaith haearn Nant-y-glo, roedd angen tai ar y gweithwyr, a throdd Frynmawr yn dref ffyniannus. Er gwaethaf y cloddio glo yn dirywio, mae amgueddfa mwyngloddio fawr ar bwys y dref ym Mlaenafon o'r enw Pwll Mawr.
Heddiw, mae gan Frynmawr boblogaeth o fwy na 6,000 o bobl. Yn ôl Cyfrifiad 2001, mae 8% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg. Mae 425 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 416 yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 366 yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Yn 2001, 9.4% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg.[2]
Roedd gan y dref yr unig ysgol gynradd Gymraeg o'r enw Ysgol Gymraeg Brynmawr gyda 310 o ddisgyblion tan 2010, pan symudwyd yr ysgol i'r Blaenau i ysgol sydd wedi'i hadeiladu'n bwrpasol, newydd sbon o'r enw Ysgol Gymraeg Bro Helyg.
Gefeilldref [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
|
||||||||||