Brynach Wyddel

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sant Brynach. Ffenestr gwydr lliw yng Nghapel Non, Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

Sant o ddechrau'r 6ed ganrif oedd Brynach Wyddel.

Hanes a thraddodiadau[golygu]

Ceir buchedd iddo yn dyddio o'r 12fed ganrif, lle dywedir iddo fynd ar bererindod i Rufain ac yna fyw yn Llydaw am gyfnod cyn symud i Gymru. Dywedir iddo lanio yn Aberdaugleddau yn Nyfed, ac yna ymsefydlu ger Afon Nanhyfer. Dywed traddodiad arall iddo fod yn gaplan i Frychan, brenin Brycheiniog. Enwyd nifer o leoedd ar ei ôl, yn cynnwys Llanfrynach yn Mhowys a Llanfyrnach yn sir Benfro.

Adroddir nifer o chwedlau amdano. Dywedir fod ganddo fuwch oedd yn rhoi cymaint o laeth nes bod digon i'r myneich i gyd, a blaidd dôf yn ei gwarchod. Un diwrnod daeth Maelgwn Gwynedd a'i osgordd ar ymweliad, gan fynnu cael eu bwydo. Pan wrthdododd Brynach, lladdasant y fuwch, ond pan geisiasant goginio'r cig, ni allent gael y dŵr i ferwi. Sylweddolodd Maelgwn ei fai ac ymddiheruodd. Adferodd Brynach y fuwch, a gwnaeth i wledd wyrthiol ymddangos, gan dynnu bara o frigau'r coed.

Dethlir ei ddydd gŵyl ar 7 Ebrill.

Cyfeiriadau[golygu]