Brychdyn, Wrecsam
Oddi ar Wicipedia
Cymuned ym mwrdeisdref sirol Wrecsam yw Brychdyn (Saesneg: Broughton). Mae'n gorchuddio ardal o 469 hectar rhwng Gwersyllt a Brymbo. Roedd poblogaeth o 6,498 yn ystod cyfrifiad 2001. Mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Moss, Pentre Brychdyn, Brynteg, Brychdyn Newydd, Glanrafon a Caego. Daeth yn ardal diwydiannol yn ystod yr 19eg ganrif, gyda cloddio glo yn mynd ymlaen oamgylch y gymuned. Mae'r cloddio wedi dod i ben rwan, ac mae nifer o'r cyn byllau glo wedi cael eu troi'n ran o barc gwledig Dyffryn Moss.
Ffynonellau [golygu]
- Davies, John; Nigel Jenkins, Menna Baines a Peredur I. Lynch (2008) Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, Gwasg y Brifysgol, Caerdydd. ISBN 9780708319543