Brwydr Stryd Watling

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Boadicea Haranguing the Britons llun olew gan John Opie

Brwydr fawr tua'r flwyddyn 61 OC oedd Brwydr Stryd Watling, rhwng yr Iceni a'r nawfed lleng Rhufeinig, sef Legio IX Hispana. Ymladdodd y llwyth Celtaidd o dan eu harweinydd Buddug ac fe lwyddasant i gipio Verulamium (St Albans), y brifddinas Rufeinig ar y pryd Camelodunum (Colchester), ynghyd â porthladd Londinium (Llundain).

Brysiodd y rhaglaw Suetonius Paulinus a'i fyddin yn ôl o Fôn gyda byddin o tua deng mil o wŷr: Legio XIV Gemina, rhan o Legio XX Valeria Victrix a rhai milwyr cynorthwyol. Cyfarfu â Buddug a'i llu ger High Cross ar Stryd Watling a bu brwydr enfawr. Ymladdodd yr Iceni yn ffyrnig ond, er bod ganndynt fantais sylweddol o ran nifer, roedd y llengfilwyr Rhufeinig yn rhy ddisgybliedig iddynt. Ffoes Buddug a gweddillion ei byddin adref. Ymddengys ei bod wedi lladd ei hun yno yn hytrach na dioddef y gwarth o weld ei llwyth a'i theyrnas yn cael eu hanreithio.