Brwydr Sain Ffagan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ymladdwyd Brwydr Sain Ffagan ar 8 Mai 1648, yn Sain Ffagan, de Cymru rhwng byddin y senedd dan y Cyrnol Thomas Horton a byddin o gyn-filwyr y Senedd oedd wedi troi i gefnogi'r brenin Siarl I o Loegr a'r Alban. Roedd yn un o frwydrau Ail Ryfel Cartref Lloegr.

Hanes[golygu]

Yn Ebrill 1648, bu gwrthryfel ymysg milwyr y Senedd yn Ne Cymru, oedd heb gael eu tâl am gryn amser. Dan arweiniad y Cyrnol John Poyer, llywodraethwr Castell Penfro, ynghyd a'i bennaeth, y Cadlywydd Rowland Laugharne a Cyrnol Rice Powel, datganasant eu cefnogaeth i'r brenin.

Gyrrodd Syr Thomas Fairfax, dros y Senedd, Thomas Horton i dde Cymru gyda 3,000 o wŷr traed, catrawd a hanner o farchogion a chatrawd o ddragwniaid. Ymdeithiodd tua thref Caerfyrddin, ond yna bu raid iddo droi am Aberhonddu i atal gwrthryfel yno. Oddi yno, symudodd i gyffiniau Caerdydd a gwersylla yn San Ffagan, i'r gorllewin o'r ddinas.

Roedd byddin Seneddol arall dan Oliver Cromwell ar ei ffordd i Gymru, felly penderfynodd Laugharne ymosod ar Horton cyn i'r ddwy fyddin Seneddol fedru ymuno. Ymosododd ar 8 Mai, gyda byddin o tua 7,500 o wŷr traed ond dim ond ychydig o farchogion.

Diweddodd y frwydr mewn buddugoliaeth i'r Seneddwyr, pan ymosododd eu marchogion ar adain chwith a chefn y fyddin Frenhinol. Lladdwyd dros 200 o'r Breniniaethwyr, a chymerwyd 3,000 yn garcharorion.

Cyfeiriadau[golygu]