Brwydr Mechain

Oddi ar Wicipedia
Brwydr Mechain
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad1069 Edit this on Wikidata
LleoliadPowys Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata

Brwydr rhwng Bleddyn ap Cynfyn a dau fab Gruffudd ap Llywelyn oedd Brwydr Mechain a ymladdwyd yn y flwyddyn 1070 yng nghantref Mechain yn nheyrnas Powys.

Roedd Bleddyn yn fab i Cynfyn ap Gwerstan o hil brenhinol Powys. Pan laddwyd Gruffudd ap Llywelyn gan ei wyr ei hun ar ôl ei orchfygu gan Harold Godwinson yn 1063, rhannwyd ei deyrnas rhwng nifer o dywysogion. Talodd Bleddyn a'i frawd Rhiwallon wrogaeth i Harold a derbyniasant deyrnasoedd Gwynedd a Phowys. Yn 1067 ymunodd Bleddyn a Rhiwallon ag Eadric o Fersia i ymosod ar y Normaniaid yn Henffordd, yna yn 1068 gwnaethant gynghrair a'r Iarll Edwin o Mersia a'r Iarll Morcar o Northumbria i ymosod ar y Normaniaid eto.

Fe geisiodd dau fab Gruffudd ap Llywelyn gipio'r deyrnas o ddwylo Bleddyn, ond gallodd eu gorchfygu ym mrwydr Mechain yn 1070. Lladdwyd un o'r ddau yn y frwydr a bu farw'r llall o oerni ar ôl y frwydr. Lladdwyd Rhiwallon, brawd Bleddyn, yn y frwydr hon hefyd, ac o hynny ymlaen bu Bleddyn yn teyrnasu ar Wynedd a Phowys ei hun tan ei farwolaeth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]