Brwydr Llandudno
Oddi ar Wicipedia
Brwydr a ymladdwyd ger Llandudno yn 856 oedd Brwydr Llandudno.
Yr oedd Rhodri Mawr yn wynebu pwysau gan yr Eingl-Sacsoniaid ac yn gynyddol gan y Daniaid hefyd, a oeddent yn ôl y croniclau yn anrheithio Môn yn 854. Yn 856 enillodd Rhodri fuddugoliaeth nodedig dros y Daniaid gan ladd eu harweinydd Gorm (a elwir weithiau yn Horm). Mae dwy gerdd gan Sedulius Scotus wedi ei hysgrifennu yn llys Siarl Foel, brenin y Ffranciaid Gorllewinol, yn dathlu buddugoliaeth "Roricus" dros y Llychlynwyr.
Cofir am fuddugoliaeth y Cymry yn yr enw Saesneg Great Orme.