Brwydr Hexham

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
St Columba

Brwydr olaf y brenin Brythonig Cadwallon ap Cadfan o Wynedd oedd Brwydr Hexham (Saesneg: Battle of Heavenfield) a ymladdwyd yn 634. Lladdwyd Cadwallon gan fyddin Oswallt, Brenin Northumbria ac yn ôl yr hanesydd John Davies yn ei lyfr Hanes Cymru, mai'r flwyddyn 634 yn "dynodi diwedd y posibilrwydd o adfer penarglwyddiaeth y Brythoniaid ym Mhrydain."[1]

Mae'r Annales Cambriae yn cofnodi'r frwydr fel Bellum Cantscaul yn 631 a Beda yntau'n ei alw'n Frwydr Deniseburna ger Hefenfelth.

Y frwydr[golygu]

Symudodd y fyddin Gymreig i ogledd Efrog. Angorodd Oswallt ei filwyr ger Fur Hadrian tua phedair milltir i'r gogledd o Hexham. Yn ystod y nos (yn ôl y chwedl) ymddangosodd Sant Columba o flaen Oswallt, mewn breuddwyd, gan broffwydo iddo fuddugoliaeth. Trodd Oswallt ei filwyr i wynebu'r dwyrain, gydag ochrau'r fyddin yn cael eu hamddiffyn gan Brady's Crag yn y gogledd a Mur Hadrian i'r de. Yn ôl Beda, cododd groes a dechreuodd weddio.

Ymosododd y Cymry, gan fethu ymosod ar ochrau'r fyddin Sacsonaidd, a dechreuant adael faes y gad i gyfeiriad y de a daliwyd a lladdwyd Cadwallon mewn lle o'r enw 'Nant Denis' (Saesneg: ‘Brook of Denis’), a adnabyddir heddiw fel 'Rowley Burn'. Roedd hon yn fuddugoliaeth bwysig i Oswallt a chredir fod llawer iawn o Gymry wedi'u lladd. Yn ddiweddarach, daethpwyd i alw'r safle yn "Heavenfield" ("Hefenfelth").

Y safle heddiw[golygu]

Ar ochr y ffordd sydd i'r dwyrain o Chollerford, sy'n rhedeg ar hyd Mur Hadrian (sef y B6318) saif croes garreg sy'n nodi'r fan lle ymladdwyd Brwydr Hexham. Ar y bryncyn i'r gogledd o'r groes hon, saif eglwys ble credir i Oswallt godi ei faner.[2]

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. John Davies, Hanes Cymru (Penguin Books, 1990), tudalen 66.
  2. GoogleMap