Brwydr Hattin

Oddi ar Wicipedia
Brwydr Hattin
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Rhan oBrwydrau'r croesgadwir rhwng 1149 a 1189 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd3 Gorffennaf 1187 Edit this on Wikidata
Daeth i ben4 Gorffennaf 1187 Edit this on Wikidata
LleoliadHorns of Hattin Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethTeyrnas Jeriwsalem Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Brwydr Hattin, o lawysgrif ganoloesol

Ymladdwyd Brwydr Hattin ar 4 Gorffennaf, 1187, ger Tiberias, Galilea (yn Israel heddiw) rhwng byddin Gristnogol Teyrnas Jeriwsalem a'i chyngheiriaid a byddin Islamaidd dan Saladin.

Enillodd Saladin fuddugoliaeth ysgubol, gan ladd llawer o'r Cristionogion, a chymeryd y rhan fwyaf o'r gweddill yn garcharorion. Ymysg y carcharorion roedd Guy o Lusignan, brenin Jeriwsalem.

Yn dilyn y frwydr, cipiodd Saladin ddinas Jeriwsalem oddi ar y Cristnogion ar 2 Hydref, 1187. Ymatebodd y gorllewin Cristnogol i'r digwyddiadau hyn trwy baratoi Y Drydedd Groesgad.