Brwydr Formigny

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Brwydr Formigny gan Martial d'Auvergne

Un o frwydrau'r Rhyfel Can Mlynedd rhwng Ffrainc a Lloegr oedd Brwydr Formigny, a ymladdwyd ar 15 Ebrill 1450 gerllaw Formigny yn Normandi.

Roedd byddin Seisnig o tua 2,000 dan Syr Thomas Kyriell wedi cyrraedd Ffrainc yn 1449, ac yn ddiweddarach wedi eu hatgyfnerthu gan 2,000 arall o wŷr dan Syr Mathau Goch. Gerllaw Formigny, daeth byddin Ffrengig o tua 5,000 i'w cyfarfod. Roedd tua dwy ran o dair o'r fyddin Seisnig yn saethwyr y bwa hir, tra defnyddiodd y Ffrancwyr ychydig o fagnelau, y tro cyntaf iddynt gael eu defnyddio mewn bwydr yn y rhyfel hwn. Cafodd y Ffrancwyr fuddugoliaeth wedi i garfan o farchogion Llydewig dan Arthur de Richemont gyrraedd y maes ac ymosod ar y Saeson o'r ystlys. Lladdwyd tua 2,500 o Saeson, a chymerwyd 900 yn garcharorion, yn ei plith Thomas Kyriell. Llwyddodd Mathau Goch a 1500 o farchogion i dorri trwy rengoedd y Ffrancod a dianc, ond daliwyd ei gyfaill William Herbert ac eraill.