Brwydr Edgehill

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Brwydr Edgehill (neu Edge Hill) oedd y frwydr gyntaf yn ystod Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr. Ymladdwyd hi ger Edge Hill and Kineton yn Swydd Warwick ar 23 Hydref, 1642.

Roedd y rhyfeloedd yn ganlyniad anghydfod rhwng y brenin a'i ddeiliaid, ynghylch crefydd ac ynghylch hawliau'r brenin. Rhyfel rhwng plaid y brenin a phlaid y Senedd ydoedd, a ddechreuodd pan gododd Siarl I ei faner yn Nottingham ar 22 Awst 1642. Y prif frwydrau oedd Brwydr Edgehill, Brwydr Marston Moor a Brwydr Naseby. Y canlyniad oedd buddugoliaeth i'r blaid Seneddol yn Lloegr, dan Oliver Cromwell erbyn diwedd y rhyfel. Wedi i'w fyddin gael ei dinistrio gan y Seneddwyr yn Naseby a Langport, ffodd y brenin at y fyddin Albanaidd yn Southwell, Swydd Nottingham ym mis Mai 1646, a daeth y Rhyfel Cartref Cyntaf i ben.


Battle template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am frwydr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.