Brwydr Dyrham

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Brwydr dynghedfennol a ymladdwyd yn ne-orllewin Prydain rhwng Brythoniaid y Gorllewin a'r Eingl-Sacsoniaid o Wessex yn y flwyddyn 577 oedd Brwydr Dyrham (hefyd Brwydr Deorham). Cytunir yn gyffredinol mai Dyrham (Hen Saesneg: Deorham) yn ne Swydd Gaerloyw, ym mryniau'r Cotswold fymryn i'r gogledd o ddinas Caerfaddon oedd safle'r frwydr, ond erys peth ansicrwydd am hynny. Gan mai cyfeiriad moel yng Nghronicl yr Eingl-Sacsoniaid yw ein hunig ffynhonnell, does dim manylion am y frwydr ei hun ar gael.

Enillwyd y frwydr gan y Sacsoniaid, ac aethant ymlaen i oresgyn a meddianu Cirencester, Caerloyw, a Chaerfaddon, un o ganolfannau crefyddol pwysicaf y Brythoniaid. Lladdwyd hefyd tri o frenhinoedd Brythonig.[1] Mae tystiolaeth archaeolegol yn dangos fod y dinasoedd hyn a'r cyffiniau yn gymharol lewyrchus yn y cyfnod yma, ac felly roedd y golled yn un sylweddol i'r Brythoniaid.

Mae'n frwydr arwyddocaol hefyd yng nghyd-destun hanes Cymru. Fel y torrodd Brwydr Caer yn nes ymlaen y cysylltiad ar dir rhwng Cymru a'r Hen Ogledd, torrodd Brwydr Dyrham y cysylltiad ar dir rhwng Brythoniaid Cymru a'u cymdogion yn y de-orllewin (Gwlad yr Haf, Dyfnaint a Chernyw). Er hynny, mae'n bwysig nodi na chafodd y Sacsoniaid yr ardal gyfan yn eu meddiant ar ôl y frwydr. Daliodd rhannau o Swydd Gaerloyw eu tir am beth amser ac arosodd y rhan fwyaf o Wlad yr Haf yn nwylo'r Brythoniaid am genhedlaeth neu ddwy wedyn. Bu brenin Brythonig ar deyrnas Dyfnaint hyd 710 a brenin Brythonig ar Gernyw hyd at 878.[1]

Cyfeirir ati yn aml fel trobwynt yn hanes yr iaith Gymraeg hefyd, gan y tybir fod y gwahaniaethau rhwng Hen Gymraeg a Brythoneg y de-orllewin (a gynrychiolir gan Gernyweg heddiw) wedi cynyddu ar ôl hynny. Ac eto ceir digon o dystiolaeth fod cysylltiadau yn parhau dros Fôr Hafren er gwaethaf hynny.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 John Davies. Hanes Cymru (Penguin, 1992), tt. 58-9.