Brwydr Coed Mametz

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y gofeb ger Coed Mametz

Coed Mametz oedd nod yr 38ain Adran (Gymreig) yn ystod Brwydr Gyntaf y Somme. Digwyddodd yr ymosodiad dros gefnen i gyfeiriad y gogledd, a ffocysodd ar safleoedd yr Almaenwyr yn y goedwig rhwng y 7 Gorffennaf a'r 12 Gorffennaf 1916. Rhwystrwyd y milwyr Cymreig rhag cyrraedd y goedwig ar y 7fed o Orffennaf gan ynnau peiriant yr Almaenwyr. Ni lwyddodd ymosodiadau'r 17eg Adran a ddilynodd ar yr 8fed o Orffennaf i wella'u safle.

Wedi ei gynddeiriogi gan ddiffyg symudiad y fyddin Gymreig, ymwelodd Syr Douglas Haig a Henry Rawlinson â phencadlys yr Adran Gymreig er mwyn mynegi eu hanfodlonrwydd. O ganlyniad cafodd yr Uwchfrigadydd Ivor Phillips, y swyddog a reolai'r Uned Gymreig, ei ryddhau o'i swydd.

'Brwydr Coed Mametz' gan Christopher Williams, 1918

Trosglwyddodd Haig reolaeth o'r Adran i'r Uwchfrigadydd Watts, cadlywydd y 7fed Adran, a dywedodd wrtho i ddefnyddio'r adran fel yr oedd angen. Cynlluniodd Watts ymosodiad lawn ar gyfer y 9fed o Orffennaf ond cymerodd y broses gynllunio ychydig amser yn fwy na'r disgwyl ac ataliwyd yr ymosodiad tan y 10 Gorffennaf 1916. Roedd y gorchymyn gweithredu yn blwmp ac yn blaen, gan ddatgan y byddai'r Adran yn ymosod ar y goedwig gyda'r nod o'i 'chipio yn llwyr'.

Roedd yr ymosodiad ar y 10fed o Orffennaf yn fwy nag unrhyw ymosodiad a geisiwyd yn flaenorol. Er gwaethaf anafiadau niferus, cyrhaeddwyd ymylon y goedwig yn fuan a dechreuodd peth brwydro gyda'r bayonet cyn iddynt fynd i mewn i'r goedwig ei hun. Cafwyd brwydo ffyrnig yn y goedwig, gyda'r Almaenwyr yn gwrthod ildio'u tir.

Aeth y 14eg Fataliwn Cymreig (Abertawe) i'r ymosodiad gyda 676 o ddynion a chollwyd dros 400 ohonynt, naill ai drwy farwolaeth neu drwy anafiadau. Dioddefodd bataliynau eraill golledion tebyg. Fodd bynnag, erbyn y 12 Gorffennaf, roedd yr Almaenwyr wedi eu clirio o'r goedwig. Roedd yr Adran Gymreig wedi colli tua 4,000 o ddynion, wedi'u lladd neu'u hanafu yn y brwydro ffyrnig. Ni fyddai'r Adran Gymreig yn cael ei defnyddio mewn ymosodiad torfol arall tan yr 31 Gorffennaf 1917.

Ym Mametz y gwnaeth y bardd rhyfel Siegfried Sassoon ei ymosodiad unigol ar ffosydd y gelyn ar y 4 Gorffennaf 1916, yn ôl ei gofiannau.

Ceir disgrifiad byw o'r brwydro yng Nghoed Mametz yn In Parenthesis, nofel fodernaidd a ysgrifennwyd gan y bardd a'r artist gweledol Seisnig o dras Gymreig, David Jones, a gymrodd ran yn y frwydr.

Saif y goedwig yno heddiw, wedi'i hamgylchynu gan dir amaethyddol. Gellir gweld ffosydd a lle glaniodd bomiau o hyd. Mae yno gofeb i'r 38ain Adran ger lôn gul sydd tua Lat: 50:00:36N (50.0099) Lon: 2:45:02E (2.7504). Gellir cyrraedd y man hwn trwy deithio o bentref Mametz ar yr heol D64. Mae'r gofeb ar ffurf Draig Goch sy'n rhwygo weiren bigog ar ben plinth 3 medr o uchder.