Brwydr Cai (Winwaed)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ymladdwyd Brwydr Cai (neu Frwydr Gai, neu Frwydr Winwaed) yn 654 rhwng Penda, brenin Mercia, ac Oswy brenin Brynaich (Northumbria), brawd y brenin Oswallt.

Roedd Penda wedi gwneud cynghrair â Chadwallon ap Cadfan, brein Gwynedd, yn erbyn Northumbria. Wedi marwolaeth Cadwallon, gwnaeth gynghrair ag olynydd Cadwallon fel brenin Gwynedd, Cadafael ap Cynfeddw. Roedd ganddo hefyd gynheiriaid o Deira. Gyda'r gelyn gerllaw, ymadawodd Cadafael a'i fyddin yn y nos, gan ennill iddo'i hun y llysenw "Cadafael Cadomedd". Gorchfygwyd Penda a'i ladd.

Dilynwyd Penda fel brenin rhan ddeheuol Mercia gan ei fab Peada, tra bu rhan ogleddol y deyrnas dan reolaeth Northumbria am gyfnod.

Lleoliad[golygu]

Does neb gant-y-cant yn sicr ym mhle mae Maes Gai, fel y gelwid maes y frwydr gan yr hen Frythoniaid, ond ymddengys mai'r lleoliad mwyaf tebygol ydy afon rhywle yn yr hen Elfed, afon Gwinwaed o bosibl. Enw'r afon heddiw, o bosib, ydy "Cock Beck" yn Leeds.

Cred eraill mai'r afon Went sydd yma, i'r gogledd o Doncaster.


Battle template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am frwydr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.