Brwydr Brandywine
Oddi ar Wicipedia
Ymladdwyd Brwydr Brandywine ar 11 Medi 1777 yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America rhwng llu Prydeinig a gwrthryfelwyr Americanaidd o dan arweinyddiaeth George Washington. Roedd y Prydeinwyr, o dan General Howe, yn fuddugol, ac yn nhermau strategol, galluogodd y fuddugoliaeth y fyddin i gipio prifddinas y gwrthryfelwyr, Philadelphia.