Brwydr Borodino

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Brwydr Borodino

Ymladdwyd Brwydr Borodino (Ffrangeg: Bataille de la Moskowa; Rwseg: Бородинское сражение, Borodinskaja bitva) ar 7 Medi 1812, rhwng byddin Ffrainc dan yr ymerawdwr Napoleon a byddin Rwsia dan Michail Kutusov. Roedd maes y frwydr ger pentref Borodino, i'r gorllewin o ddinas Moscow (yn Oblast Moscfa heddiw).

Yn 1812 ffurfiwyd y Chweched Cynghrair rhwng Rwsia, Prydain, Prwsia, Sweden, Awstria a nifer o wladwriaethau bychain yr Almaen, gyda'r bwriad o wrthwynebu Napoleon. Ymosododd Napoleon ar Rwsia ym mis Mehefin gyda'r Grande Armée, yn cynnwys tua 600,000 o filwyr, dim ond 270,000 ohonynt yn Ffrancwyr. Ar 7 Medi ymladdwyd brwydr Borodino. Roedd gan y fyddin Ffrengig rhwng 125,000 a 130,000 o wŷr, a'r fyddin Rwsaidd rhwng 154,000 a 157,000. Dioddefodd y ddwy ochr golledion trwm, y Ffrancwyr 28,000 - 30,000 a'r Rwsiaid 45,000 - 58,000. Ar ddiwedd y dydd, roedd y ddwy fyddin yn parhau i fod ar faes y gad, ond y noson honno enciliodd y Rwsiaid tua'r dwyrain.

Meddiannwyd Moscow gan y Ffrancwyr, ond rhoddwyd y ddinas ar dân. Bu raid i Napoleon encilio, a rhwng y tywydd ac ymosodiadau'r Rwsiaid, collodd bron y cyfan o'i fyddin; dim ond tua 30,000 o filwyr a groesodd afon Berezina i adael Rwsia.

Mae hanes y frwydr yn ffurfio rhan bwysig o'r nofel Rhyfel a Heddwch gan Lev Tolstoy.