Brwydr Bir Hakeim
Oddi ar Wicipedia
Digwyddodd Brwydr Bir Hakeim mewn gwerddon yn anialwch Libya, lleoliad hen gaer Twrcaidd. Yn ystod Brwydr Gazala amddiffynwyd y lleoliad gan y Cadfridog Marie Pierre Koenig a'r Adran Rhydd 1af Ffrainc o 26 Mai hyd 11 Mehefin 1942 yn erbyn ymosodiadau gan luoedd yr Almaen a'r Eidal a oedd odan arweiniaeth y Cadfridog Erwin Rommel. Llwyddont i wrthsefyll yr ymosodiad am 16 diwrnod, rhoddodd Adran Rhydd Ffrainc ddigon o amser i'r Wythfed Fyddin Brydeinig, a oedd yn encilio, allu aildrefnu a'ugalluogi i atal yr Axis rhag symyd ymlaen ym Mrwydr Cyntaf El Alamein.