Brwydr Adrianople (378)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Brwydr Adrianople. Mae gwŷr meirch y Gothiaid (coch) yn ymosod ar ddwy ystlys y fyddin Rufeinig (glas).

Ymladdwyd Brwydr Adrianople ar 9 Awst 378 gerllaw dinas Adrianople (Edirne yng ngorllewin Twrci heddiw) rhwng byddin yr Ymerodraeth Rufeinig yn y dwyrain dan yr ymerawdwr Valens a byddin y Gothiaid a'i cyngheiriaid.

Dechreuodd y problemau i'r ymerodraeth Rufeinig pan symudodd nifer fawr o'r Gothiaid dan Fritigern i mewn i'r ymerodraeth yn Moesia a Dacia oherwydd fod yr Hyniaid yn ymosod arnynt. Ar y cyntaf fe'u derbyniwyd yn heddychlon, ond yn fuan bu problemau; nid oedd bwyd ar gael iddynt ac roedd y trigolion lleol yn elyniathus iddynt. Heblaw y Gothiaid oedd wedi cael caniatad i groesi'r ffîn, roedd miloedd eraill wedi dod i mewn i'r ymerodraeth heb ganiatad.

Enillodd y Gothiaid nifer o frwydrau lleol, ac yn 378 daeth yr ymerawdwr yn y dwyrain, Valens, i'w gwrthwynebu. Roedd yr ymerawdwr yn y gorllewin, ei nai Gratianus, ar y ffordd gyda byddin i gynorthwyo, ond mynnodd Valens ymladd cyn iddo gyrraedd. Ar 9 Awst 378, gadawodd Valens a'i fyddin ddinas Adrianople a symud tua'r gogledd i ymosod ar wersyll y Gothiaid. Cyrhaeddasant tua 14:30, a dechrau'r ymosodiad. Roedd y Gothiaid wedi trefu eu wagenni mewn cylch amddiffynnol, a gofynnodd Fritigern am drafodaethau i geisio oedi'r ymosodiad Rhufeinig, gan wybod fod ei wŷr meirch allan o'r gwersyll.

Pan ddychwelodd y marchogion Gothaidd, ymosodasant ar ddwy ystlys y fyddin Rufeinig. Gorchfygwyd Valens a'i ladd. Credir i rhwng 10,000 ac 20,000 o filwyr Rhufeinig gael eu lladd yn y frwydr. Gwanychwyd yr ymerodraeth Rufeinig yn fawr gan ei cholledion ym Mrwydr Adrianople, ac mae rhai ysgolheigion yn ystyried mai'r frwydr hon oedd dechrau dirywiad terfynol yr ymerodraeth. Canlyniad arall y frwydr a marwolaeth Valens oedd gwanhau Ariadaeth yn yr ymerodraeth; roedd Valens yn Ariad ond roedd ei olynwydd, Theodosius I, yn dilyn Credo Nicea.