Brwydr Garn Goch

Oddi ar Wicipedia
Brwydr Garn Goch
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
DyddiadIonawr 1136 Edit this on Wikidata
Rhan oYmosodiad y Normaniaid ar Gymru Edit this on Wikidata
LleoliadAbertawe Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata
RhanbarthCymru Edit this on Wikidata

Gelwir Brwydr Garn Goch weithiau yn Frwydr Llwchwr a hefyd yn Frwydr Gŵyr.

Cofeb Brwydr Garn Goch ac Abertawe yn y Cefndir

Y Cymry, dan arweiniad medrus Hywel ap Maredudd, a orfu, ond y frwydr hon oedd dechrau rhyfel gwaedlyd y Cymry a'r Saeson rhwng 1136 ac 1137.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Gwladychwyd rhannau o Gymru, gan gynnwys Penrhyn Gŵyr, gan werinwyr Normanaidd yn ystod 11g[1]. Erbyn 1106 roedd brenin Lloegr, Harri I, yn ddigon eofn yng Nghymru i roddi Gŵyr yn anrheg i Iarll Warwick, a hynny heb oresgyn y tir[1].  Er brwydro ffyrnig erbyn ugeiniau cynta'r 12g, daeth Gruffydd ap Rhys i gytundeb â Harri I a bu heddwch[1].

Bu farw Harri I ar yr ail o Ragfyr 1135[2].

Brwydr Garn Goch[golygu | golygu cod]

Y Frwydr[golygu | golygu cod]

Ar ddydd Calan 1136, gyda Steffan bellach ar orsedd Lloegr, daeth Hywel ap Maredudd, pennaeth â chryn ddylanwad ganddo ym Mrycheiniog, gyda nifer fawr o Gymry tua Phenrhyn Gŵyr, i ymosod ar y Normaniaid[3]. Dynion Brycheiniog, Morgannwg a gogledd Gŵyr oedd cyfansoddiad y fyddin[3]. Roedd y Normaniaid wedi hen arfer ymdrin â grwpiau bychain o Gymry a'u gorchfygu, ond y tro hwn bu cam-amcangyfrif ac ni ragwelwyd maint byddin y Cymry[4].

Aeth y ddwy fyddin ben-ben a'i gilydd am hanner dydd ar y dydd Calan hwnnw ar dir gerllaw ysbyty Garn Goch heddiw[3].  Bu galanas a lladdwyd cannoedd ar y ddwy ochr: 516 o'r Normaniaid yn ôl y cofnod[2]. Yn y cofnod 'Chronicon ex Chronicis' dywed John of Worcester (1140)  

"Immediately after the death of King Henry, on 2nd December, a fierce battle took place on 1st Ionawr in Gower between the Normans and the Welsh in which five hundred and sixteen of both armies died. Their bodies were horribly scattered among the fields and eaten up by wolves."[2]

Cofeb Brwydr Garn Goch

Dywedir nad oedd yr olygfa a ddilynai'r frwydr yn un ddymunol, gyda chyrff y lladdedigion wedi cael eu llusgo o gwmpas y lle a'u hanner bwyta gan fleiddiaid fyddai'n teyrnasu yng nghors Einon[5].  

Aeth byddin y Cymry yn ei blaen i losgi a rheibio de Gŵyr[6].

Canlyniadau'r Frwydr[golygu | golygu cod]

Dyma oedd dechrau rhyfel gwaedlyd y Cymry a'r Saeson rhwng 1136 ac 1137[4], y rhyfel a welodd Gwenllïan yn farw yng Nghydweli a'i gŵrGruffydd ap Rhys, o gyd-ddigwyddiad, yn marw ym Mhenllergaer rai misoedd yn ddiweddarach[4].

Tystiolaeth Ddaearyddol[golygu | golygu cod]

O fewn ychydig filltiroedd i safle'r frwydr ceir yr enwau Garn Goch, Cadle a Blaen-y-Maes.

Wrth sefyll ar faes y frwydr fe welir twmpyn bychan ar dir cyfagos gydag ambell i goeden ar ei ben – yma medd rhai y claddwyd cyrff y meirwon; yma medd eraill roedd y 'gaer' (Penllergaer) lle gwyliai Hywel y frwydr yn datblygu'n waedlyd[7].

Cofeb Garn Goch[golygu | golygu cod]

Yn 1985 sicrhawyd bod cofeb yng Ngarn Goch. Cloddiwyd carreg enfawr o chwarel yng Nghwm Gwendraeth a threfnwyd i'r fyddin diriogaethol ei chludo i'r fan.  Mae oddeutu traean ohoni o dan y ddaear. Gwelir cen yn tyfu drosti erbyn hyn. Gerllaw hefyd mae'r cofnod ar lechi sydd yn nodi'r hanes. Daeth y ddwy lechen o fwrdd snwcer yng ngharchar Abertawe, eu glanhau, eu cerfio a'u cludo'n ddiogel i'r fan[7].

Arwydd Garn Goch

Daeth Gwynfor Evans i Garn Goch ar Ddydd Gŵyl Dewi 1986 i ddadorchuddio'r gofeb. Gwrthododd yr awdurdodau dro ar ôl thro i roi arwydd i gyfeirio'r teithiwr at y maen coffa ac felly aeth rhywrai ati yn y dirgel i 'addasu' arwydd eu hunain a'i osod yn y fan[7].

Coffáu Cyfoes[golygu | golygu cod]

Coffad Brwydr Garn Goch Ionawr y Cyntaf 2013
Coffad Brwydr Garn Goch Ionawr y Cyntaf 2013

Cedwir lleoliad y maen yn lân drwy dorri'r gwair a phlannu cenin pedr.

Am hanner dydd yn flynyddol ar ddydd Calan cynhelir coffâd cyhoeddus ger y maen coffa yng Ngarn Goch[7].

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Davies, J. (1990) Hanes Cymru. Penguin Books
  • Evans, G. (1971) Aros Mae. Gwasg John Penry
  • Fychan, C. (2006) Galwad y Blaidd. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion
  • Gildas Research (2013) 'Welsh Battlefields Historical Survey: The Battle of Gower 1136, Glamorganshire, Historical Assessment'
  • McKurk, J. (1998) The Chronicle of John of Worcester: Volume III: The Annals from 1067 to 1140 with the Gloucester Interpolations and the Continuation to 1141: The Annals from 1067-1140, Vol 3. Oxford University Press
  • Walker, D. (1990) Medieval Wales. Cambridge University Press

Gweler Hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Walker (1990)
  2. 2.0 2.1 2.2 McKurk (1998)
  3. 3.0 3.1 3.2 Evans (1971)
  4. 4.0 4.1 4.2 Davies (1990)
  5. Fychan (2016)
  6. Coflein
  7. 7.0 7.1 7.2 7.3 "Gwefan Coffáu Garn Goch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-26. Cyrchwyd 2017-01-22.