Brindisi
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Brundisium)
Dinas ar arfordir de-ddwyreiniol yr Eidal a phrifddinas talaith Brindisi yw Brindisi (hen enw Lladin Brundisium). Saif yn rhanbarth Puglia (Apulia), ac roedd y boblogaeth yn 2004 yn 87,935.
Saif y ddinas ar Fôr Adria, ac oherwydd ei phorthladd naturiol, mae wedi bod yn borthladd pwysig ar hyd ei hanes, gyda cysylltiadau a Gwlad Groeg, Twrci ac Albania. Dyddia'r ddinas o'r cyfnod cyn y Rhufeiniaid. Cipiwyd y ddinas gan y Rhufeiniaid yn 267 CC, a datblygodd yn borthadd pwysig, gyda'r Via Appia yn ei chysylltu a Rhufain.